Ecclesiastes 2

Profi pleser

1Meddyliais, “Reit, dw i'n mynd i weld beth sydd gan bleser i'w gynnig!” Ond wedyn dod i'r casgliad mai nid dyna'r ateb chwaith. 2“Mae byw dim ond i gael hwyl a sbri yn hurt!” meddwn i. Ac am fyw i bleser, dwedais, “Beth ydy'r pwynt?”

3Dyma fi'n ceisio gweld fyddai codi'r galon gyda gwin, nes dechrau actio'r ffŵl, yn ateb. Ceisio bod yn ddoeth oeddwn i. Roeddwn i eisiau gweld a oedd hynny'n beth da i bobl ei wneud yn yr amser byr sydd ganddyn nhw ar y ddaear.

4Wedyn dyma fi'n casglu mwy a mwy o eiddo. Dyma fi'n adeiladu tai i mi fy hun, ac yn plannu gwinllannoedd. 5Dyma fi'n cynllunio gerddi a pharciau brenhinol i mi fy hun, ac yn plannu pob math o goed ffrwythau ynddyn nhw. 6Yna adeiladu pyllau dŵr – digon i ddyfrio'r holl goed oedd gen i yn tyfu. 7Prynais weithwyr i mi fy hun – dynion a merched, ac roedd gen i weision eraill oedd wedi eu geni yn y tŷ brenhinol. Roedd gen i fwy o wartheg a defaid nac unrhyw un oedd wedi bod yn Jerwsalem o'm blaen i. 8Dyma fi'n casglu arian ac aur i mi fy hun hefyd, a thrysorau gwerthfawr brenhinoedd a thaleithiau eraill. Roedd gen i gantorion (dynion a merched) i'm difyrru, a digonedd o bleser rhywiol – harîm o ferched hardd.

9Oedd, roedd gen i fwy o gyfoeth nac unrhyw un oedd wedi bod o'm blaen i yn Jerwsalem. Ond yn dal i geisio bod yn ddoeth. 10Roeddwn i'n cael beth bynnag oedd yn cymryd fy ffansi. Roeddwn i'n gallu profi pob pleser, fel y mynnwn i. Roeddwn i'n mwynhau'r gwaith caled, a dyna oedd fy ngwobr i am fy ymdrech.

11Ond yna dechreuais feddwl am y cwbl roeddwn i wedi ei gyflawni, a'r holl ymdrech oedd wedi mynd i mewn i gael popeth oedd gen i – a dod i'r casgliad ei fod yn gwneud dim sens, a bod y cwbl fel ceisio rheoli'r gwynt. Beth mae rhywun yn ei ennill yn y pen draw? 12Beth mwy fydd y brenin nesaf yn gallu ei wneud? Dim ond beth sydd wedi ei gyflawni eisoes!

Doethineb a Ffolineb

Dechreuais feddwl eto am y gwahaniaeth rhwng doethineb a'r pethau hurt a ffôl mae pobl yn eu gwneud.
13Des i'r casgliad fod mwy o bwynt i ddoethineb na ffolineb – mae fel y gwahaniaeth rhwng golau a thywyllwch.

14“Mae pobl ddoeth yn gwybod ble maen nhw'n mynd,
ond mae ffyliaid yn cerdded mewn tywyllwch.”

Ond wedyn, yr un dynged sy'n disgwyl y naill a'r llall.
15Meddyliais, “Yr un peth fydd yn digwydd i mi ac i'r ffŵl yn y diwedd! Felly beth ydy'r pwynt bod mor ddoeth?” Des i'r casgliad fod hyn hefyd yn gwneud dim sens. 16Fydd dyn doeth, fel y ffŵl, ddim yn cael ei gofio yn hir iawn. Byddan nhw wedi cael eu hanghofio yn y dyfodol. Mae'n ofnadwy! Mae'r doeth yn marw yn union yr un fath â'r rhai ffôl. 17Felly roeddwn i'n casáu bywyd, am fod popeth sy'n digwydd yn y byd yn hollol annheg yn fy ngolwg i. Mae'r cwbl mor ddiystyr – mae fel ceisio rheoli'r gwynt.

Gweithio'n galed i ddim byd

18Roeddwn i'n casáu'r ffaith fy mod i wedi gweithio mor galed i gael pethau ar y ddaear yma, ac wedyn fod rhaid i mi adael y cwbl i'r un fyddai'n dod ar fy ôl i. 19A phwy a ŵyr fydd y person hwnnw'n ddoeth neu'n ffŵl? Ond bydd e'n dal i reoli'r holl gyfoeth dw i wedi gweithio mor galed amdano a defnyddio fy noethineb i'w gael. Dydy hyn chwaith yn gwneud dim sens!

20Roeddwn i'n hollol ddigalon wrth feddwl am bopeth roeddwn i wedi ei gyflawni ar y ddaear. 21Mae rhywun yn gweithio'n galed, ac yn defnyddio'i holl ddoethineb a'i wybodaeth a'i allu i gael y cwbl, ac wedyn mae'n ei basio ymlaen i rywun sydd wedi gwneud dim i'w ennill. Dydy'r peth yn gwneud dim sens ac mae'n hollol annheg.

22Beth mae rhywun yn ei ennill ar ôl yr holl ymdrech diddiwedd? 23Dim ond pryder a rhwystredigaeth drwy'r dydd, ac wedyn methu ymlacio yn y nos hyd yn oed! Dydy e'n gwneud dim sens!

Cyngor yr Athro – mwynhau bywyd

24Y peth gorau all rhywun ei wneud ydy bwyta, yfed a mwynhau ei waith. A dyma fi'n sylweddoli mai Duw sy'n rhoi hyn i gyd i ni. 25Heb Dduw does neb yn gallu bwyta na mwynhau bywyd go iawn. 26Duw sy'n rhoi'r doethineb a'r gallu i fwynhau ei hun i'r sawl sy'n ei blesio. Ond dim ond yr holl drafferth o gasglu a phentyrru eiddo mae'r un sydd ddim yn ei blesio yn ei gael – a hynny i ddim byd yn y diwedd ond i'w basio ymlaen i rywun sydd yn plesio Duw! Mae'n anodd gwneud sens o'r cwbl – mae fel ceisio rheoli'r gwynt.

Copyright information for CYM